2 Samuel 5
Dafydd yn frenin ar Israel gyfan
(1 Cronicl 11:1-9; 14:1-7) 1Dyma'r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd. 2Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yn dod â nhw adre. Mae'r Arglwydd wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am ▼▼5:2 ofalu am Hebraeg, “bugeilio”
 Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”  3Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr Arglwydd. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan.  4Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.  5Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd. Dafydd yn concro Jerwsalem
6Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno.) “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw. 7Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd). 8Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”) ▼▼5:8 Dydy'r dall … i'r tŷ Falle fod yma gyfeiriad at Lefiticus 21:17-23
  9Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas.  10Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus, gydag e.  11Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.  12Roedd Dafydd yn gweld mai'r Arglwydd oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.  13Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon ▼▼5:13 gariadon Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
 a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.  14Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,  15Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffia,  16Elishama, Eliada ac Eliffelet. Dafydd yn concro'r Philistiaid
(1 Cronicl 14:8-17) 17Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer ▼▼5:17 i'r gaer sef Adwlam mae'n debyg – 1 Samuel 22:1; 2 Samuel 23:14
.  18Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm ▼▼5:18 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.
.  19Dyma Dafydd yn gofyn i'r Arglwydd, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr Arglwydd, “Dos i fyny, achos bydda i yn rhoi'r Philistiaid i ti.”  20Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm. ▼▼5:20 Baal-peratsîm sef “y meistr sy'n byrstio allan”.
  21Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a'i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd.  22Ond dyma'r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.  23A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i'r Arglwydd beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.  24Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna'r arwydd fod yr Arglwydd yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”  25Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho, a taro'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.  
    Copyright information for
    CYM