Numbers 34
Ffiniau'r wlad
1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu: 3Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw. ▼▼34:3 Hebraeg, “Môr Halen”
  4Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon.  5O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.  6“‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.  7“‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor,  8ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.  9Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.  10“‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam;  11wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea,  12ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. ▼▼34:12 Hebraeg, “Môr Halen”
 Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”  13A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r Arglwydd wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl.  14Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw.  15Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.” Y dynion sydd i rannu'r tir
16Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 17“Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. 18A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.”19Dyma enwau'r arweinwyr ddewisodd yr Arglwydd:  
  
29Y rhain gafodd eu dewis gan yr Arglwydd i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.  | Arweinydd | Llwyth | 
| Caleb fab Jeffwnne | Jwda | 
| Shemwel fab Amihwd | Simeon | 
| Elidad fab Cislon | Benjamin | 
| Bwcci fab Iogli | Dan | 
| Channiel fab Effod | Manasse | 
| Cemwel fab Shifftan | Effraim | 
| Elitsaffan fab Parnach | Sabulon | 
| Paltiel fab Assan | Issachar | 
| Achihwd fab Shelomi | Asher | 
| Pedahel fab Amihwd | Nafftali | 
    Copyright information for
    CYM