Deuteronomy 27:15-26
15‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr Arglwydd.’A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
16‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
17‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
18‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
19‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
20‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
21‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
22‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu ei fam.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
23‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
24‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
25‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
26‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’
A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deuteronomy 29:1
1Dyma amodau'r ymrwymiad wnaeth yr Arglwydd orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai ▼▼29:1 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall am Fynydd Sinai.
. Deuteronomy 29:9
9“Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo.
Copyright information for
CYM