Deuteronomy 3:8-11
8“Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. 9(Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.) 10Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og. 11(Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)Y llwythau wnaeth setlo i'r dwyrain o'r Iorddonen
(Numeri 32:1-42)
Copyright information for
CYM