‏ Exodus 17:8-16

8Tra roedden nhw yn Reffidim, dyma'r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel. 9A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o'n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i'n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.”

10Felly dyma Josua yn mynd allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur. 11Tra roedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill. 12Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg iddo eistedd arni. A dyma nhw'n sefyll un bob ochr iddo, ac yn dal ei freichiau i fyny drwy'r dydd nes oedd yr haul wedi machlud. 13Felly dyma Josua a'i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid. 14A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Dw i eisiau i ti gadw cofnod o hyn yn y llyfr, a gwneud yn siŵr fod Josua'n gwybod amdano. Dw i'n mynd i gael gwared â'r Amaleciaid yn llwyr – fydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!”

15Dyma Moses yn codi allor yno a'i galw yn Iafe-Nissi (sef “yr Arglwydd ydy fy fflag”). 16Dwedodd, “Am iddyn nhw godi dwrn yn erbyn gorsedd yr Arglwydd, bydd yr Arglwydd yn ymladd yn erbyn yr Amaleciaid bob amser.”

‏ Deuteronomy 25:17-18

17“Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft. 18Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw.
Copyright information for CYM