‏ Hosea 13:7-8

7Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,
ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8Bydda i'n ymosod arnyn nhw
fel arth wedi colli ei chenawon;
a'i llarpio nhw fel llew,
neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.

‏ Amos 5:18-19

18Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen
at y diwrnod pan fydd yr Arglwydd yn dod!
Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?
Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
19Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew
ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.
Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,
ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
Copyright information for CYM