‏ Jeremiah 22:24-30

24“Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Arglwydd, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda wedi bod yn sêl-fodrwy
22:24 sêl-fodrwy Yn Haggai 2:23 mae'r un darlun yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio Serwbabel, ŵyr Jehoiachin (gw. 1 Cronicl 3:17-19; Mathew 1:12).
ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd.
25Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin. 26A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna ble byddwch chi'n marw. 27Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”

28Ai jwg diwerth wedi ei dorri ydy'r dyn Jehoiachin?
(fel potyn pridd does neb ei eisiau).
Pam mae e a'i blant wedi eu taflu i ffwrdd?
(wedi eu taflu i wlad ddieithr).
29Wlad, wlad, wlad,
gwrando ar neges yr Arglwydd.
30Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:
“Gwnewch gofnod fod y dyn yma'n ddi-etifedd!
(dyn fydd yn gweld dim llwyddiant).
Fydd dim un o'i blant yn teyrnasu yn Jwda ar ei ôl.
Fydd neb yn ei ddilyn ar orsedd Dafydd.”
22:30 Fydd dim un … ar orsedd Dafydd Mae'r addewid yn 2 Samuel 7:13-16 wedi dod i ben. Roedd y sefydliad yn Jerwsalem wedi diystyru amodau'r addewid – Salm 132:11-12

Copyright information for CYM