Jeremiah 36:1-4
1Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ▼▼36:1 y bedwaredd … ar Jwda 604–605 CC
, dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: 2“Cymer sgrôl ▼▼36:2 sgrôl Rholyn o bapurfrwyn neu ledr gydag ysgrifen arno.
, ac ysgrifennu arni bopeth dw i wedi ei ddweud wrthot ti am Israel a Jwda a'r gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wedi ei ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin. 3Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw, falle y byddan nhw'n stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud, a bydda i'n maddau iddyn nhw am y drwg a'r pechod maen nhw wedi ei wneud.” 4Felly dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr Arglwydd wedi ei roi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl.
Copyright information for
CYM