Jeremiah 49:23-27
23Neges am Damascus: “Mae pobl Chamath ac Arpad ▼▼49:23 Chamath ac Arpad Dwy dref yn Syria.
wedi drysu.Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.
Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu
fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
24Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,
ac wedi ffoi mewn panig.
Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
fel gwraig ar fin cael babi.
25Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –
y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,
a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”
—yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27“Bydda i'n llosgi waliau Damascus,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad ▼
▼49:27 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18, 20; 2 Brenhinoedd 13:24). Ystyr yr enw ydy "mab Hadad". Hadad oedd Duw'r storm.
.” cNeges am Cedar a Chatsor
Amos 1:3-5
3Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Mae Damascus ▼▼1:3 Damascus Prifddinas Syria.
wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,
a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.
4Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael ▼
▼1:4 Hasael brenin Syria o 842 i 805 CC gw. 1 Brenhinoedd 19:15
,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad. ▼
▼1:4 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18, 20; 2 Brenhinoedd 13:24). Gall fod yn cyfeirio at fab Hasael, wnaeth ei olynu fel brenin (2 Brenhinoedd 13:3,24) neu at frenin wnaeth ei ragflaenu (gw. 1 Brenhinoedd 20). Ystyr yr enw ydy "mab Hadad". Hadad oedd Duw'r storm.
5Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,
yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,
a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.
Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” g
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Philistia h
Zechariah 9:1
1Y neges roddodd yr Arglwyddam ardal Chadrach,
yn arbennig tref Damascus.
(Mae llygad yr Arglwydd ar y ddynoliaeth
fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
Copyright information for
CYM