Matthew 14:17-21
17Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach ▼▼14:17 torth fach: Torth fach gron fflat, mae'n debyg.
 a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”  18“Dewch â nhw i mi,” meddai.  19A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.  20Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben.  21Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant! Iesu'n cerdded ar y dŵr
(Marc 6:45-52; Ioan 6:15-21)
    Copyright information for
    CYM