Matthew 15:34-38
34“Sawl torth o fara ▼▼15:34 torth o fara: gw. y nodyn ar 14:17.
 sydd gynnoch chi?” meddai Iesu. “Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”  35Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr.  36Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.  37Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.  38Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!  
    Copyright information for
    CYM