Numbers 25:1-5
1Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. 2Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. 3Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr Arglwydd wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, 4a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr Arglwydd ganol dydd, er mwyn i'r Arglwydd beidio bod mor wyllt gydag Israel.” 5Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” Numbers 31:16
16“Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr Arglwydd!
Copyright information for
CYM