Numbers 35:1-8
1Dyma'r Arglwydd yn siarad â Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. 2“Dywed wrth bobl Israel am roi rhai o'u trefi i'r Lefiaid i fyw ynddyn nhw, gyda tir pori i'w hanifeiliaid. 3Wedyn bydd ganddyn nhw le i fyw, a thir pori i'w gwartheg a'u defaid a'u hanifeiliaid eraill. 4Rhaid i'r tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre. 5Mae ffin allanol y tir pori i fesur 1,350 metr ar bob ochr – gogledd, de, gorllewin a dwyrain – gyda'r dre yn y canol. Mae'r tir yma i fod yn dir pori i'r trefi. 6“Bydd chwech o'r trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall trwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill i'r Lefiaid – 7pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda tir pori i bob un. 8Rhaid i'r trefi dych chi'n eu rhoi fod yn drefi sydd piau pobl Israel. Bydd nifer y trefi mae pob llwyth yn ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y llwyth. Bydd y llwythau mwyaf yn rhoi mwy o drefi, a'r llwythau lleiaf yn rhoi llai. Ond rhaid i bob llwyth gyfrannu rhai o'u trefi i'r Lefiaid.”Trefi lloches
(Deuteronomium 19:1-13; Josua 20:1-9)
Copyright information for
CYM