Obadiah 1-4
1Gweledigaeth Obadeia. Dyma beth mae'r Meistr, yr Arglwydd, wedi ei ddweud am Edom. ▼▼1:1 Edom Roedd pobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob
Cawson ni neges gan yr Arglwydd, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!” Bydd Duw yn cosbi Edom b
2Mae'r Arglwydd yn dweud wrth Edom ▼▼1:2 Mae'r … Edom Ddim yn yr Hebraeg, ond wedi eu hychwanegu i wneud y sefyllfa'n glir (gw. diwedd adn.4)
:“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,
‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’ ▼
▼1:3 Ti'n byw yn saff … o'r fan yma! Roedd Sela, prifddinas Edom wedi ei hadeiladu ar lwyfandir uchel Wm el-Biara, gyda clogwyni serth ar dair ochr iddi.
4Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,
a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr!” e
—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for
CYM